Mae Cyngor Cymuned Ceulanamaesmawr yn gwasanaethu pentrefi Tal-y-bont a Bont-goch a’r ardaloedd cyfagos yng ngogledd Ceredigion. Mae’r ardal wedi ei lleoli rhwng llethrau Pumlumon i’r dwyrain a Chors Fochno i’r gorllewin. Ffurfiwyd enw’r Cyngor trwy gyfuno enwau dwy o afonydd y fro, afon Ceulan ac afon Maesmawr, sy’n llifo i afon Leri, prif afon Ceulanamaesmawr.
Tyfodd pentref Tal-y-bont yn ganolfan ddiwydiannol ffyniannus ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan godwyd melinau gwlân ar lannau’r afonydd, ac ar ôl i gyfalafwyr mentrus agor nifer helaeth o weithfeydd mwyn yn y cymoedd a’r bryniau cyfagos.
Erbyn canol yr ugeinfed ganrif roedd y diwydiannau traddodiadol hyn wedi diflannu.
Er bod y canran o’r boblogaeth sy’n siarad Cymraeg wedi gostwng ers y 1950au, mae’r Gymraeg yn parhau’n iaith hyfyw yn y gymuned ac yn iaith cyfathrebu y rhan helaethaf o’r sefydliadau lleol, gan gynnwys y Cyngor Cymuned ei hun.
Dyma ardal wledig brydferth a fu unwaith yn gartref i weithfeydd mwyn hanesyddol a melinau gwlân llewyrchus. Mae afonydd Ceulan a Leri yn llifo trwy’r gymuned ac mae’n rhan o ardal Biosffer Dyfi. Mae llwybrau cyhoeddus niferus yr ardal yn boblogaidd gyda thrigolion ac ymwelwyr.
Amaethyddiaeth yw prif ddiwydiant y fro, ond mae llawer o’r trigolion yn gweithio i gyflogwyr yn Aberystwyth a thu hwnt. Busnes mwyaf yr ardal yw gwasg Y Lolfa. Mae Ysgol Gynradd Gymunedol, Cylch Meithrin a Chylch Ti a Fi llwyddiannus yma ac ymhlith y busnesau sy’n gwasanaethu’r ardal mae siop y pentref, garej, fferyllfa, salon trin gwallt, caffi a dwy dafarn. Mae dau gapel anghydffurfiol yn Nhal-y-bont ac eglwys ym Mhont-goch, a Neuadd Goffa Tal-y-bont yw’r neuadd bentref fwyaf yng Ngheredigion. Mae yna hefyd tua 25 o ffermydd teuluol llewyrchus yn yr ardal, ac mae bri ar weithgareddau amaethyddol megis y Sioe flynyddol a’r Clwb Ffermwyr Ifanc.
Y Cyngor
Mae’r Cyngor yn cael ei ariannu drwy Dreth y Cyngor.

