Bob blwyddyn bydd y Cyngor yn cynnig grantiau bychain i nifer o gymdeithasau a sefydliadau lleol sy’n hybu bywyd cymdeithasol, iaith a diwylliant yr ardal.

Gwahoddir ceisiadau am gymorth ariannol oddi wrth gymdeithasau a mudiadau lleol, sirol a chenedlaethol, gyda mudiadau lleol yn cael eu blaenoriaethu. I ymgeisio, lawrlwythwch y Ffurflen Gais a’i hanfon, wedi ei chwlhau, gyda chopi o’ch mantolen ariannol ddiweddaraf ar e-bost at Glerc y Cyngor.

Mae rhaid cyflwyno’r cais cyn diwedd mis Ionawr a rhaid i bob mudiad a chorff sy’n ymgeisio am grant gyflwyno copi o’u mantolen ariannol ddiweddaraf. Ni fydd y Cyngor yn ystyried unrhyw gais heb weld copi o’r fantolen. Bydd penderfyniad ar y ceisiadau yn cael ei wneud ym mis Chwefror a chaiff pob mudiad eu hysbysu yn fuan ar ôl hynny.

Gweler isod restr o’r cyrff sydd wedi derbyn grant yn 2025:

Mudiad Swm
Clwb Ffermwyr Ifanc Tal-y-bont £200
Clwb Ieuenctid Tal-y-bont £200
Clwb Pêl-droed Ieuenctid Tal-y-bont £500
Clwb Pêl-droed Tal-y-bont £500
Cylch Meithrin Tal-y-bont £1,000
Cymdeithas Amaethyddol Tal-y-bont £400
Cymdeithas Papur Pawb £400
Neuadd Goffa Tal-y-bont £1,000
Pwyllgor Clwb ar ôl Ysgol Tal-y-bont £200
Cletwr £100
Clwb Brecwast/CRhA Ysgol Tal-y-bont £200
Grwp Llifogydd Tal-y-bont £100
Cymdeithas Maes Chwarae Tal-y-bont £300
HAHAV £100
Ambiwlans Awyr Cymru £200
Cronfa Cyfle i Bawb yr Urdd £100