Mynwent Gyhoeddus Tal-y-bont

Cyngor Cymuned Ceulanamaesmawr sy’n rheoli Mynwent Gyhoeddus Tal-y-bont gyda chymorth ariannol Cyngor Sir Ceredigion. Clerc y Cyngor Cymuned sy’n gyfrifol am y trefniadau gweinyddol. Mae’r fynwent, a sefydlwyd yn 1898, wedi ei lleoli ar ochr y briffordd A487 i’r gogledd o’r pentref ar bwys fferm Tanrallt.

Os oes gennych unrhyw gais neu gwestiwn ynglyn â’r fynwent croeso i chi anfon ebost at : cyngorcmm@gmail.com