Dechreuwyd y gwaith o godi argae ar draws afon Rheidol wrth odre Pumlumon Fawr ar ddiwedd y 1950au, a hynny i gronni dŵr ar gyfer Cynllun Trydan Hydro Cwm Rheidol. Cyn boddi Cwm Nant y Moch yn 1964 bu’n rhaid i’r ddau frawd, John a Jim James, adael eu tyddyn a chaewyd capel y cwm. Heddiw mae Nant y Moch yn atyniad poblogaidd gan ymwelwyr sy’n mwynhau’r daith ar hyd y ffordd fynydd ar lan y llyn, ac yn arbennig wrth yrru oddi yno i Dal-y-bont heibio i Fwlch y Garreg a Chwm Ceulan.
