Tir comin ryw hanner milltir i’r dwyrain o bentref Tal-y-bont. Am genedlaethau lawer, byddai plant a phobl ifanc y pentref yn dod i’r llecyn hwn i fwynhau picnic neu i ymdrochi yn afon Leri. Mae llwybr troed o’r Borth i Bontarfynach yn croesi Braichgarw.